Cyn y cyfweliad
• Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble a phryd mae’r cyfweliad yn mynd i ddechrau. Nid yw bod yn hwyr yn ddechrau da.
• Darllenwch am y cwrs, oherwydd bydd hyn yn rhoi modd i chi ryngweithio’n haws â’r cyfwelydd, a bydd gennych well syniad o’r hyn mae’n sôn amdano.
• Meddyliwch am y cwestiynau yr hoffech eu gofyn am y cwrs neu’r brifysgol.
• Darllewnch eich datganiad personol, mae’n bosibl y bydd y cyfwelydd yn sôn am rywbeth ynddo.
• Darllenwch y newyddion diweddaraf am eich maes pwnc, mae’n bosibl y bydd y cyfwelydd yn profi’ch gwybodaeth.
• Ceisiwch gael cyfweliad ffug ymlaen llaw, a dychmygu pa gwestiynau allai gael eu gofyn.
Yn ystod y cyfweliad
• Gwisgwch yn addas – ni fydd rhaid i chi fod mewn siwt, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn drwsiadus.
• Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn gynnar.
• Eisteddwch yn syth, edrychwch ym myw llygad y cyfwelydd, ac atebwch y cwestiynau mewn llais clir.
• Os nad ydych yn deall cwestiwn, gofynnwch i’r cyfwelydd ei ailadrodd. Mae’n well nag ateb rhywbeth hollol wahanol.
• Gofynnwch gwestiwn eich hunan, i ddangos bod gennych ddiddordeb yn y brifysgol a’r cwrs.
• Gwerthwch eich hunan, byddwch yn frwdfrydig, a gwnewch cystal ag y gallwch.
Ar ôl y cyfweliad
• Meddyliwch am y cyfweliad, a’r cwestiynau oedd yn anodd i chi. Nodwch y rhain rhag ofn y byddant yn codi eto.
• Eisteddwch yn ôl, arhoswch a chadwch lygad ar eich sgrin Track.