Amserlenni Arholiadau

Bydd y dolenni hyn yn mynd â chi i wefannau’r byrddau arholi priodol

Mae cofrestriadau TGAU a TAG Safon Uwch/UG y Byrddau Arholi yn cau ar 21 Chwefror. Mae cofrestriadau’n parhau i gael eu gwneud a’u trefnu’n derfynol. Cyn y Pasg, byddwn ni’n postio amserlenni arholiadau personol wedi’u cadarnhau i’r cyfeiriad cartref. Dylech chi wirio’r amserlenni hyn yn ofalus i sicrhau’r canlynol:

  • Bod yr holl fanylion personol yn gywir, os oes unrhyw beth yn anghywir cysylltwch â’r Tîm Arholiadau.
  • Mae’r holl gofrestriadau disgwyliedig wedi’u rhestru, dylech chi a’ch mab/merch nodi’r dyddiadau ac amser dechrau pob arholiad. Mae holl arholiadau’r bore yn dechrau am 9.30am, ac mae holl arholiadau’r prynhawn yn dechrau am 1.30pm.   Os ydych chi’n credu bod unrhyw beth ar goll neu yn anghywir, cysylltwch â’r Tîm Arholiadau.
  • Mae’r holl drefniadau mynediad disgwyliedig wedi’u rhestru. Os ydych chi’n credu bod unrhyw beth ar goll neu yn anghywir, cysylltwch â’r Tîm Cymorth Dysgu.

Os oes gwrthdaro yn yr amserlen, hynny yw, dau neu fwy o arholiadau wedi’u trefnu ar gyfer yr un diwrnod a’r un amser, fel arfer bydd yr arholiadau hyn yn cael eu sefyll ar yr un diwrnod gyda goruchwyliaeth rhwng pob un. Bydd y Tîm Arholiadau yn cadarnhau’r trefniadau hyn yn nes at yr amser.

Gall dysgwyr weld eu hamserlen arholiadau ar eu e-CDU hefyd. Bydd yr amserlen arholiadau wedi’i chadarnhau ar gael ar yr e-CDU ar 22 Chwefror.

Mae’r wybodaeth gyfredol am asesiadau a graddio yn 2022 i’w gweld yma:
https://qualificationswales.org/media/7958/qw-cc21-04-e-letter-to-learners-arrangements-for-2022.pdf,

https://qualificationswales.org/cymraeg/trefniadau-asesu-20212022/dysgwyr-rhieni-a-gofalwyr/

Amserlenni Arholiadau ar gyfer pob corff dyfarnu i’w gweld yma:

WJEC A/AS – https://www.cbac.co.uk/media/mccj5y3x/summer-2022-wales-and-eduqas-as-and-a-level-final-exam-timetable-22-10-21.pdf

WJEC GCSE – https://www.cbac.co.uk/media/1pipzv3u/2-summer-2022-wales-and-eduqas-gcse-final-exam-timetable-v9-20-10-21-welsh.pdf

AQA             https://filestore.aqa.org.uk/admin/t_table_pdf/AQA-TT-GCE-JUN22-CONFIRMED.PDF

Pearson      https://qualifications.pearson.com/en/support/support-topics/exams/exam-timetables.html

OCR             https://ocr.org.uk/administration/general-qualifications/preparation/key-dates-and-timetables/

Y dyddiad wrth gefn ar gyfer Arholiadau yw 26 Mehefin 2022.

Gweler isod am ragor o Wybodaeth Arholiadau ac Asesu

Fel y gwnaethom gyfathrebu â dysgwyr ym mis Medi, cyhoeddwyd y byddai arholiadau yn haf 2022 yn mynd ymlaen, gyda rhai addasiadau’n cael eu gwneud i fanylebau i gyfrif am y ffaith bod dysgwyr wedi colli addysgu wyneb yn wyneb yn ystod y pandemig.

Mae hynny’n wir o hyd, ac mae darlithwyr yn gweithio’n galed i baratoi dysgwyr ar gyfer yr arholiadau hyn. Fodd bynnag, ym mis Hydref 2021, rhyddhawyd canllawiau pellach i ysgolion a cholegau yn amlinellu trefniadau wrth gefn ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch a fydd yn cael eu cymhwyso, pe penderfynid canslo cyfres arholiadau 2022 oherwydd newidiadau i’r sefyllfa iechyd cyhoeddus.

Yn sgîl y neges honno, mae’r Coleg bellach wedi llunio cynllun a fydd yn sicrhau bod dysgwyr yn barod ar gyfer arholiadau ond eu bod hefyd yn cael eu hasesu’n ddigonol yn y Coleg, pe bai angen i ni ddyfarnu gradd a bennir gan y ganolfan i ddysgwyr.

Ni ddylai’r trefniadau wrth gefn “dynnu oddi ar y sefyllfa bolisi gyfredol i arholiadau fynd ymlaen yn haf 2022”, ond dylai colegau, fel rhan o’u dysgu a’u haddysgu arferol, hefyd ymgorffori asesiadau y gellid eu defnyddio i “lywio graddau a bennir gan ganolfannau, pe bai eu hangen”. Mae’r canllawiau gan Gymwysterau Cymru ar gael i’w gweld yn llawn: https://www.cymwysteraucymru.org/cymraeg/cyhoeddiadau/summer-2022-guidance-on-contingency-assessment-arrangements-for-approved-gcses-as-and-a-levels/.

Bydd yr asesiadau a ddefnyddir i lywio gradd a bennir gan y ganolfan yn:

  • “ychydig o ddarnau o dystiolaeth ddilys, o ansawdd uchel”, a
  • bydd yr amser sy’n cael ei dreulio ar yr asesiadau hyn, fel canllaw, tua chyfanswm yr amser asesu y byddech chi’n ei gwblhau mewn cyfres arholiadau safonol, ac yn
  • amodol ar ofynion sicrhau ansawdd mewnol fel bod marcio yn gyson ac yn unol â safonau byrddau arholi.

Yn unol â’r canllawiau hyn, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynllunio’r canlynol, pe bai angen sbarduno’r cynllun wrth gefn oherwydd bod arholiadau wedi cael eu canslo:

  1. Bydd dysgwyr yn cwblhau tri asesiad arwyddocaol trwy gydol y flwyddyn. Bydd natur yr asesiadau hyn yn amrywio yn dibynnu ar y dull asesu arferol yn y pwnc hwnnw – er enghraifft, os yw’r pwnc fel arfer yn cynnwys gwaith cwrs, elfennau ymarferol neu waith portffolio, yna bydd hyn yn rhan o’r cynllun wrth gefn.
  2. Mae pob pwnc Safon Uwch a TGAU wedi paratoi Cynlluniau Asesu Penodol i’r Pwnc unigol, a fydd ar gael i’w gweld ar y ddolen porth myfyrwyr sydd ynghlwm yma https://studentportal.gcs.ac.uk/ssap/ ac ar dudalennau TEAMS y pynciau unigol. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys manylion eang yr asesiadau arwyddocaol a phryd y cânt eu cynnal. Bydd darlithwyr yn darparu rhagor o wybodaeth am yr asesiadau hyn yn ystod darlithoedd fel bod dysgwyr yn ymwybodol o’r asesiadau a allai gyfrannu at radd a bennir gan y ganolfan.

Tra bod dysgwyr yn cael eu paratoi ar gyfer arholiadau, byddant yn cwblhau asesiadau eraill ar wahân i’r rhai a amlinellir ar y cynllun asesu. Mae hyn yn hanfodol i’w paratoi ar gyfer arholiadau gan ein bod yn ymwybodol iawn, oherwydd yr aflonyddwch digynsail y mae’r pandemig wedi’i achosi, mae angen i lawer o ddysgwyr ymarfer cwestiynau arddull arholiad, felly rydym yn gwerthfawrogi eich cymorth i sicrhau bod dysgwyr yn gweithio ar gyfer yr asesiadau hyn ac yn eu cwblhau. Bydd y marciau am y darnau ychwanegol hyn o waith ar gael ar lyfrau marcio e-CDU y dysgwr. Gallai’r asesiadau hyn hefyd gyfrannu at ddyfarnu gradd gyfannol a bennir gan y ganolfan, pe bai unrhyw un yn colli asesiad arwyddocaol oherwydd salwch.

Yn achos y pynciau nad ydynt yn dilyn manylebau CBAC ac sy’n dilyn byrddau arholi yn Lloegr, mae’r canllawiau yn Lloegr yn cyd-fynd yn agos â’r canllawiau a ryddhawyd gan Gymru ac felly mae’r un cynllun wrth gefn yn berthnasol i’r rhai sy’n dilyn byrddau arholi Lloegr a chyrsiau Safon Uwch llinol.

Byddwn yn eich diweddaru ymhellach pan fydd rhagor o ganllawiau’n cael eu rhyddhau gan reoleiddwyr yr arholiadau, ond os oes gennych unrhyw ymholiadau yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â’r Coleg.

Nikki Neale                                                Lucy Hartnoll
Cyfarwyddwr Cwricwlwm ac Ansawdd      Deon Cyfadran/Arweinydd Safon Uwch
nikki.neale@gcs.ac.uk                               lucy.hartnoll@gcs.ac.uk

I gael yr holl ddiweddariadau am ymateb y Coleg i Covid-19, ewch i’r adran Gwybodaeth am Arholiadau ar ein tudalen wybodaeth ddynodedig am Goronafeirws.

10/12/2021