Cwestiynau Cyffredin

Mae’n naturiol y bydd llawer o gwestiynau gennych cyn ac ar ôl i’ch mab / merch ddechrau yn y coleg.

I gael yr holl ddiweddariadau am ymateb y Coleg i Covid-19, ewch i’n tudalen wybodaeth ddynodedig am Goronafeirws.

***

Gobeithio bydd yr wybodaeth yn y Parth Rhieni hwn o gymorth i chi. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi edrych ar Lawlyfr y Myfyriwr.

Beth yw dyddiadau’r tymhorau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod?

Mae dyddiadau dechrau / diwedd tymor a nosweithiau agored cyrsiau amser llawn i’w gweld yn http://www.gcs.ac.uk/cy/dyddiadaur-tymhorau-a-nosweithiau-agored

Pa gyrsiau sydd ar gael?

Cynigiwn amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn. Ar hyn o bryd mae gennym dros 40 o bynciau Safon Uwch a 40 o ddewisiadau cyrsiau galwedigaethol ar wahân. I gael gwybod rhagor ewch i http://www.gcs.ac.uk/cy/full-time

Beth am ar ôl y coleg – sut mae’r cyfraddau dilyniant i’r brifysgol?

Eleni, roedd tua 1000 o fyfyrwyr wedi symud ymlaen i’r brifysgol ac, o’r rhain, cafodd 200 eu derbyn gan sefydliadau Russell Group. Yn 2020, roedd dim mwy nag 11 o’n myfyrwyr wedi symud ymlaen i Rydgrawnt.

Yn ogystal â’n Rhaglen i Baratoi ar gyfer Rhydgrawnt, Coleg Gŵyr Abertawe, ar wahoddiad ac mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caergrawnt, yw’r sefydliad “hwb” i Gonsortiwm AU+, sy’n cydweithredu gyda’r saith ysgol chweched dosbarth yn Abertawe.

Mae’r coleg hefyd wedi meithrin cysylltiadau ardderchog â diwydiant ac yn cynnig llwybrau prentisiaeth mewn amrywiaeth eang o sectorau.

Pa gyfleusterau y gallwch eu cynnig i fyfyrwyr?

Ymhlith y cyfleusterau niferus sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr mae:

Llyfrgelloedd modern, llawn offer

Bwyty hyfforddi’r Vanilla Pod

Salonau, ystafelloedd triniaeth a sba yng Nghanolfan Broadway

Canolfan Chwaraeon – sy’n cynnig dewisiadau hael ar gyfer aelodaeth myfyrwyr

Man chwarae amlddefnydd

Gweithdai Peirianneg/Cerbydau Modur

Stiwdio Arloesi Lego

Theatr/stiwdio ddawns

Labordai gwyddoniaeth

Stiwdios recordio llawn cyfarpar/ystafell gymysgu

Ystafelloedd tywyll digidol

Ward ffug

Caban awyr ffug

Beth yw’ch polisïau ynghylch derbyn a / neu bresenoldeb?

Mae’r holl bolisïau coleg i’w gweld yn http://www.gcs.ac.uk/cy/polisïau-a-gweithdrefnau

Methu cael hyd i ateb i’ch cwestiwn? Anfonwch e-bost i marketing@gcs.ac.uk ac fe wnawn ni gysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.

Ydy’r coleg yn darparu unrhyw gymorth ychwanegol i ddysgwyr?

Os ydy dysgwyr wedi cael cymorth yn yr ysgol, fwy na thebyg gallwn ddarparu’r cymorth hwn yn ystod eu cyfnod yn y coleg. Gallai’r cymorth hwn gynnwys:

  • Cymorth un i un/mewn grŵp gyda Chynorthwyydd Cymorth Dysgu yn y dosbarth
  • Amser ychwanegol ar gyfer arholiadau/asesiadau allanol
  • Cymorth a chyfarwyddyd dyslecsia
  • Lle tawel yn ystod y dydd
    Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o arweiniad cysylltwch ag un o’r canlynol:
    Keith Harries – Rheolwr Cymorth Dysgu – keith.harries@gcs.ac.uk
    Ceri Low – Cydlynydd Cymorth Dysgu – ceri.low@gcs.ac.uk