Nosweithiau Rhieni / Agored

Dyddiadau pwysig i’ch dyddiadur

Sylwch, hyd y gellir rhagweld, y bydd ein holl nosweithiau agored yn cael eu cynnal yn rhithwir ar wefan Coleg Gŵyr Abertawe.

Tachwedd 2021

Dydd Llun 8 | Noson agored Gorseinon
Dydd Mercher 10 | Noson agored Llys Jiwbilî
Dydd Llun 15 | Noson agored Tycoch / Ysgol Fusnes Plas Sketi
Dydd Mawrth 16 | Noson agored Llwyn y Bryn

Wythnos Cynnydd 2021

Yr wythnos yn dechrau 11 Hydref yw Wythnos Cynnydd i’r holl ddysgwyr amser llawn.

Nod yr wythnos yw rhoi cyfle i ddysgwyr drafod eu cynnydd hyd yn hyn a nodi cynllun unigol i sicrhau y cânt eu cefnogi’n llawn i gyflawni eu potensial. Bydd pob dysgwr yn cael apwyntiad un-i-un dynodedig gyda darlithwyr/tiwtoriaid i drafod cynnydd ar eu cwrs hyd yma.

Bydd timau cwrs yn cyfleu eu cynlluniau penodol i ddysgwyr erbyn diwedd yr wythnos hon (8 Hydref).

Diweddarwyd Hydref 2021