Croeso i’r Parth Rhieni

Mae’r adran hon o’r wefan wedi cael ei datblygu i roi’r wybodaeth berthnasol ddiweddaraf i chi am fywyd coleg.

Croeso i’n Parth Rhieni newydd a gynlluniwyd i’ch cyflwyno chi a’ch teulu i’r bennod newydd gyffrous hon yn addysg eich plentyn ac i’ch helpu i’w gefnogi i gael canlyniadau ardderchog tra bydd yn y Coleg. Mae ein profiad wedi dangos i ni fod partneriaeth tair ffordd rhwng y myfyriwr, y Coleg a rhieni neu warcheidwaid y myfyriwr yn helpu i sicrhau’r canlyniadau gorau ac felly rydym yn awyddus i’ch cynnwys ar y daith addysgol hon gymaint ag sy’n bosibl.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn arbenigo ar gefnogi pobl ifanc wrth iddynt symud trwy’r cyfnod addysg hwn i fyd gwaith, gyda’n llwyddiant yn seiliedig ar ddarparu profiadau o’r radd flaenaf i’ch mab neu’ch merch sy’n cynnwys addysgu ardderchog, cyfleusterau da a gofal a chymorth gwych. Mae’r amrywiaeth o raglenni sydd ar gael yn y Coleg yn rhoi cyfle i bobl ifanc wella eu cymwysterau a symud ymlaen i swyddi da neu addysg uwch a hefyd i gwrdd â phobl newydd a gwneud pethau newydd. Mae llawer o waith caled i’w wneud ond mae hwyl a chyfeillgarwch i’w mwynhau hefyd.

Cofion cynnes
Mark Jones
Pennaeth

***

Profion derbyn Rhydychen a Chaergrawnt

Rydym yn ymwybodol bod rhai o’n dysgwyr wedi cael problemau technegol sylweddol yn eu profion derbyn Rhydychen a Chaergrawnt yn ddiweddar.

Roedd y rhain yn broblemau cenedlaethol, a brofwyd gan ymgeiswyr ledled y DU.

Roedd tarfiadau technegol wedi effeithio ar y profion a safwyd ar-lein, yn enwedig y Prawf Derbyn Mathemateg (MAT) a’r Prawf Derbyn Saesneg Llenyddiaeth (ELAT).

Mae Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt yn llwyr ymwybodol o’r sefyllfa hon.

Rydym yn cynorthwyo ein hymgeiswyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y tarfiadau hyn ac rydym wedi casglu’r holl broblemau y gwyddom amdanynt er mwyn cyflwyno ffurflenni Ystyriaethau Arbennig ym mhob achos.

Dr. Emma Smith, Cydlynydd Rhydgrawnt, Coleg Gŵyr Abertawe.

02/11/23

Newyddion Diweddaraf

Darllen y newyddion diweddaraf