Sut i ysgrifennu Datganiad Personol
• Paragraff agoriadol cryf – er mwyn hoelio sylw’r tiwtor yn syth.
• Sgiliau perthnasol – gwnewch yn siŵr eich bod yn rhestru’r cyflawniadau sy’n berthnasol.
• Tystiolaeth – rhoi tystiolaeth i gefnogi’ch datganiadau.
• Gwerthwch eich hunan – does dim pwynt bod yn ddiymhongar, rhaid i chi wneud cystal ag y gallwch, heb ymffrostio.
• Gochelwch rhag defnyddio hiwmor – ni allwch fod yn siŵr bod eich tiwtor yn rhannu’ch hiwmor.
• Cofiwch eich terfynau – dim ond 4,000 o gymeriadau neu 47 o linellau sydd gennych i’w defnyddio.
• Sillafu a gramadeg – cofiwch ei ddarllen, ei ailddarllen a’i roi trwy’r gwiriwr sillafu.
• Byddwch yn onest – gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu disgrifiad gonest o’ch hunan.
• Sicrhewch ei fod yn darllen yn dda – yn ogystal â bod yn onest rydych am i’ch tiwtor fwynhau ei ddarllen.
• Ysgrifenwch eich datganiad eich hunan – mae gan UCAS feddalwedd llên-ladrad sy’n gwirio a yw pob datganiad yn unigryw.
• Cofiwch – dim ond un datganiad personol y gallwch ei ysgrifennu hyd yn oed os ydych yn gwneud cais am gyrsiau gwahanol.