Sut i ysgrifennu Datganiad Personol

•             Paragraff agoriadol cryf – er mwyn hoelio sylw’r tiwtor yn syth.

•             Sgiliau perthnasol – gwnewch yn siŵr eich bod yn rhestru’r cyflawniadau sy’n berthnasol.

•             Tystiolaeth  – rhoi tystiolaeth i gefnogi’ch datganiadau.

•             Gwerthwch eich hunan – does dim pwynt bod yn ddiymhongar, rhaid i chi wneud cystal ag y gallwch, heb ymffrostio.

•             Gochelwch rhag defnyddio hiwmor – ni allwch fod yn siŵr bod eich tiwtor yn rhannu’ch hiwmor.

•             Cofiwch eich terfynau – dim ond 4,000 o gymeriadau neu 47 o linellau sydd gennych i’w defnyddio.

•             Sillafu a gramadeg – cofiwch ei ddarllen, ei ailddarllen a’i roi trwy’r gwiriwr sillafu.

•             Byddwch yn onest – gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu disgrifiad gonest o’ch hunan.

•             Sicrhewch ei fod yn darllen yn dda –  yn ogystal â bod yn onest rydych am i’ch tiwtor fwynhau ei ddarllen.

•             Ysgrifenwch eich datganiad eich hunan – mae gan UCAS feddalwedd llên-ladrad sy’n gwirio a yw pob datganiad yn unigryw.

•             Cofiwch – dim ond un datganiad personol y gallwch ei ysgrifennu hyd yn oed os ydych yn gwneud cais am gyrsiau gwahanol.