Cyn y cyfweliad

•             Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble a phryd mae’r cyfweliad yn mynd i ddechrau. Nid yw bod yn hwyr yn ddechrau da.

•             Darllenwch am y cwrs, oherwydd bydd hyn yn rhoi modd i chi ryngweithio’n haws â’r cyfwelydd, a bydd gennych well syniad o’r hyn mae’n sôn amdano.

•             Meddyliwch am y cwestiynau yr hoffech eu gofyn am y cwrs neu’r brifysgol.

•             Darllewnch eich datganiad personol, mae’n bosibl y bydd y cyfwelydd yn sôn am rywbeth ynddo.

•             Darllenwch y newyddion diweddaraf am eich maes pwnc, mae’n bosibl y bydd y cyfwelydd yn profi’ch gwybodaeth.

•             Ceisiwch gael cyfweliad ffug ymlaen llaw, a dychmygu pa gwestiynau allai gael eu gofyn.

 

Yn ystod y cyfweliad

•             Gwisgwch yn addas – ni fydd rhaid i chi fod mewn siwt, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn drwsiadus.

•             Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn gynnar.

•             Eisteddwch yn syth, edrychwch ym myw llygad y cyfwelydd, ac atebwch y cwestiynau mewn llais clir.

•             Os nad ydych yn deall cwestiwn, gofynnwch i’r cyfwelydd ei ailadrodd. Mae’n well nag ateb rhywbeth hollol wahanol.

•             Gofynnwch gwestiwn eich hunan, i ddangos bod gennych ddiddordeb yn y brifysgol a’r cwrs.

•             Gwerthwch eich hunan, byddwch yn frwdfrydig, a gwnewch cystal ag y gallwch.

Ar ôl y cyfweliad

•             Meddyliwch am y cyfweliad, a’r cwestiynau oedd yn anodd i chi. Nodwch y rhain rhag ofn y byddant yn codi eto.

•             Eisteddwch yn ôl, arhoswch a chadwch lygad ar eich sgrin Track.