I gael yr holl ddiweddariadau am ymateb y Coleg i Covid-19, ewch i’n tudalen wybodaeth ddynodedig am Goronafeirws.
***
Gobeithio bydd yr wybodaeth yn y Parth Rhieni hwn o gymorth i chi. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi edrych ar Lawlyfr y Myfyriwr.
Beth yw dyddiadau’r tymhorau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod?
Mae dyddiadau dechrau / diwedd tymor a nosweithiau agored cyrsiau amser llawn i’w gweld yn http://www.gcs.ac.uk/cy/dyddiadaur-tymhorau-a-nosweithiau-agored
Pa gyrsiau sydd ar gael?
Cynigiwn amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn. Ar hyn o bryd mae gennym dros 40 o bynciau Safon Uwch a 40 o ddewisiadau cyrsiau galwedigaethol ar wahân. I gael gwybod rhagor ewch i http://www.gcs.ac.uk/cy/full-time
Beth am ar ôl y coleg – sut mae’r cyfraddau dilyniant i’r brifysgol?
Eleni, roedd tua 1000 o fyfyrwyr wedi symud ymlaen i’r brifysgol ac, o’r rhain, cafodd 200 eu derbyn gan sefydliadau Russell Group. Yn 2020, roedd dim mwy nag 11 o’n myfyrwyr wedi symud ymlaen i Rydgrawnt.
Yn ogystal â’n Rhaglen i Baratoi ar gyfer Rhydgrawnt, Coleg Gŵyr Abertawe, ar wahoddiad ac mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caergrawnt, yw’r sefydliad “hwb” i Gonsortiwm AU+, sy’n cydweithredu gyda’r saith ysgol chweched dosbarth yn Abertawe.
Mae’r coleg hefyd wedi meithrin cysylltiadau ardderchog â diwydiant ac yn cynnig llwybrau prentisiaeth mewn amrywiaeth eang o sectorau.
Pa gyfleusterau y gallwch eu cynnig i fyfyrwyr?
Ymhlith y cyfleusterau niferus sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr mae:
Llyfrgelloedd modern, llawn offer
Bwyty hyfforddi’r Vanilla Pod
Salonau, ystafelloedd triniaeth a sba yng Nghanolfan Broadway
Canolfan Chwaraeon – sy’n cynnig dewisiadau hael ar gyfer aelodaeth myfyrwyr
Man chwarae amlddefnydd
Gweithdai Peirianneg/Cerbydau Modur
Stiwdio Arloesi Lego
Theatr/stiwdio ddawns
Labordai gwyddoniaeth
Stiwdios recordio llawn cyfarpar/ystafell gymysgu
Ystafelloedd tywyll digidol
Ward ffug
Caban awyr ffug
Beth yw’ch polisïau ynghylch derbyn a / neu bresenoldeb?
Mae’r holl bolisïau coleg i’w gweld yn http://www.gcs.ac.uk/cy/polisïau-a-gweithdrefnau
Methu cael hyd i ateb i’ch cwestiwn? Anfonwch e-bost i marketing@gcs.ac.uk ac fe wnawn ni gysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.
Ydy’r coleg yn darparu unrhyw gymorth ychwanegol i ddysgwyr?
Os ydy dysgwyr wedi cael cymorth yn yr ysgol, fwy na thebyg gallwn ddarparu’r cymorth hwn yn ystod eu cyfnod yn y coleg. Gallai’r cymorth hwn gynnwys:
- Cymorth un i un/mewn grŵp gyda Chynorthwyydd Cymorth Dysgu yn y dosbarth
- Amser ychwanegol ar gyfer arholiadau/asesiadau allanol
- Cymorth a chyfarwyddyd dyslecsia
- Lle tawel yn ystod y dydd
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o arweiniad cysylltwch ag un o’r canlynol:
Keith Harries – Rheolwr Cymorth Dysgu – keith.harries@gcs.ac.uk
Ceri Low – Cydlynydd Cymorth Dysgu – ceri.low@gcs.ac.uk