Ffioedd Dysgu

Mae prifysgolion a cholegau’n gosod eu ffi ddysgu. Mae benthyciad ffi heb brawf modd ar gael i dalu am y costau hyn.

Costau Byw

Gallwch wneud cais am ‘Fenthyciad i Fyfyrwyr am Gynhaliaeth’, sy’n eich helpu gyda chostau byw megis bwyd, teithio a llety. Mae’r swm y byddwch yn ei fenthyca’n dibynnu ar ble rydych yn byw ac yn astudio, ac incwm eich cartref. Fe’i telir mewn tri rhandaliad, a dim ond pan fyddwch yn ennill dros £21,000 y flwyddyn y bydd rhaid i chi ddechrau ei ad-dalu.

Ysgoloriaethau a Bwrsarïau

Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig cymorth ariannol uniongyrchol i fyfyrwyr trwy ysgoloriaethau a bwrsarïau. Mae ysgoloriaethau yn cael eu rhoi yn ôl teilyngdod academaidd, tra bod bwrsarïau’n cael eu rhoi yn ôl prawf modd, megis incwm eich cartref. Nid oes rhaid i chi ad-dalu’r arian a gewch o ysgoloriaethau neu fwrsarïau.

Sut i arbed arian

  • Gosodwch gyllideb realistig i chi’ch hunan bob wythnos a glynu wrthi.
  • Ceisiwch gynyddu’ch incwm trwy gael swydd, fel mewn tafarn neu siop.
  • Gwnewch gais am gerdyn UCM i gael disgowntiau neu gynigion arbennig mewn nifer o siopau cadwn y stryd fawr.
  • Agorwch gyfrif banc myfyriwr.
  • Meddyliwch yn ofalus cyn cael unrhyw fenthyciadau eraill ar wahân i’r rhai uchod, neu gerdyn credyd.
  • Prynwch yr eitemau pob dydd rhatach ag y gallwch – nhw yw’r cynhyrchion y byddwch yn eu prynu fwyaf.
  • Anghofiwch am eitemau brand, mae bob amser yn well prynu cynhyrchion brand y siop ei hunan.
  • Os ydych yn defnyddio’r trên, prynwch gerdyn rheilffordd er mwyn arbed digon o arian ar ffioedd.
  • Manteisiwch ar gynigion hyrwyddol i fyfyrwyr.
  • Rhannwch gostau ag eraill lle bo’n bosibl.

*Gwybodaeth yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ffigurau a ddyfynnir yn ddangosol ac yn gywir adeg cynhyrchu’r cyhoeddiad hwn.