Ar ôl dewis y prifysgolion mae gennych ddiddordeb ynddynt, rhaid i chi ymweld â nhw i weld a ydyn nhw’n iawn i chi. Ceisiwch ymweld â’r holl brifysgolion mae gennych ddiddordeb ynddynt cyn gwneud cais neu ymateb i’ch cynigion, oherwydd bydd hyn yn rhoi’r cyfle gorau i chi o wybod ble y byddech chi’n byw  hapusach. Os na allwch ymweld, mae llawer o brifysgolion yn cynnig Diwrnodau Agored Rhithwir a theithiau 360° o amgylch y campws ar eu gwefannau.

Paratoi

•             Gwnewch restr o’r prifysgolion yr hoffech ymweld â nhw.

•             Gwyliwch am ddyddiadau Diwrnodau Agored ar eu gwefannau.

•             Gwnewch amserlen i nodi pryd gallwch ymweld â phob un.

•             Cofrestrwch ar gyfer y rhai yr hoffech fynd iddyn nhw.

Beth i’w wneud yn ystod y Diwrnod Agored

•             Gwrandewch ar anerchiadau wedi’u trefnu gan y Brifysgol.

•             Ewch i’ch adran, darlithfeydd, llyfrgelloedd, labordai ac ystafelloedd TG.

•             Ewch i weld y llety yn uniongyrchol.

•             Ewch i weld bariau, bwytai a chyfleusterau arlwyo’r brifysgol.

•             Ewch i’r dref/ddinas ei hunan, a’r cyffiniau – ydych chi’n gallu gweld eich hunan yn byw yno?

•             Siaradwch â myfyrwyr a staff presennol.

Mae mynd i Ddiwrnod Agored yn ffordd wych o weld y Brifysgol yn uniongyrchol, ac efallai yr unig ffordd o weld a allech fyw yno. Mae Diwrnodau Agored hefyd yn gallu newid eich barn am le, ac maen nhw’n gallu gwthio un o’ch dewisiadau olaf i frig eich rhestr.