Gofal Bugeiliol

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe rydym yn ymfalchïo yn arbenigedd ein tiwtoriaid a’r amrywiaeth o gymorth ac arweiniad y gallwn ei chynnig trwy ein cynllun sesiynau tiwtorial.

Mae pob myfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn cael tiwtor personol sy’n cadw mewn cysylltiad agos â’r myfyrwyr trwy gydol eu cyfnod gyda ni – o’r sesiwn sefydlu ar y diwrnod cyntaf, yn ystod eu taith gyda ni ar y cwrs o’u dewis, nes bod yr amser yn dod ar gyfer symud ymlaen i’r cam nesaf, beth bynnag y bo.

Gellir cynnal sesiynau tiwtorial ar sail ‘un i un’ neu fel grŵp cyfan. Maen nhw’n cael eu cynnal bob wythnos ac mae sesiwn diwtorial ddynodedig ar amserlen pob myfyriwr.

Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, mae’n bwysig bod myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn deall y safonau a ddisgwylir wrth astudio gyda ni. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd tiwtoriaid yn darparu sesiynau tiwtorial arbenigol ar bynciau megis diogelu, atal, a sawl sesiwn tiwtorial ar iechyd a lles megis aros yn ddiogel ar-lein a pheryglon cyffuriau ac alcohol i enwi dim ond ychydig.

Wrth i’r myfyrwyr symud ymlaen ar eu cwrs, mae eu hanghenion yn newid ac mae’r ffocws yn symud i fwy o bwyslais ar sesiynau un i un lle mae myfyrwyr yn cael amcanion dysgu clir a thargedau sy’n eu herio i gyflawni eu potensial. Mae’r targedau hyn yn cael eu ffurfioli ddwywaith y flwyddyn, ond maen nhw hefyd yn cydredeg drwy gydol eu cwrs, ac mae gan fyfyrwyr fynediad iddynt drwy eu e-CDU.

Agwedd bwysig arall ar y sesiwn diwtorial yw bod y myfyriwr yn teimlo bod ganddo gefnogaeth. Mae’r tiwtor personol hefyd yn chwarae rôl bwysig yn hyn o beth. Mae gan diwtoriaid brofiad helaeth ond mae ganddynt hefyd gefnogaeth swyddogion cymorth eraill yn y coleg (sy’n ymdrin ag amrywiaeth o feysydd gan gynnwys cyllid, tai a materion personol) a allai fod o gymorth i fyfyrwyr.

Pwrpas sesiynau tiwtorial yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yw sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi, yn academaidd ac yn bersonol, ym mhob agwedd ar fywyd coleg fel y gallant ganolbwyntio ar ragori yn y maes o’u dewis a chyrraedd eu nod.

Cysylltiadau:

Tiwtor Arweiniol yn Nhycoch a Llwyn y Bryn – leah.millinship@gcs.ac.uk

Tiwtor Arweiniol yng Ngorseinon – TBC

Tiwtor Dilyniant AU y Coleg – terry.summerfield@gcs.ac.uk