Dilyniant

Dilyniant

Meddwl am wneud cais i’r Brifysgol?

Ymchwil yw un o’r elfennau pwysicaf wrth wneud cais Prifysgol – mae’r dewis yn eang, felly mae’n hanfodol eich bod chi’n gwybod cymaint ag sy’n bosib am wahanol sefydliadau AU.

Nid yw mynychu diwrnodau agored yn opsiwn ar hyn o bryd, felly rydyn ni’n gobeithio y bydd y ddolen hon yn ddefnyddiol i chi – yn syml, cliciwch ar y Brifysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi i gael rhagor o wybodaeth am bethau megis adnoddau dysgu ar-lein, cyllid a sesiynau sgwrsio.

Canllawiau ar ddilyniant o UG i U2

Bob blwyddyn mae’r holl fyfyrwyr UG yn cael cyfle i wneud cais am ddilyniant i U2. Caiff dewisiadau pynciau eu cadarnhau wedyn adeg ailgofrestru ym mis Awst ar ôl cael yr holl raddau UG. Mae dilyniant yn seiliedig ar gyfuniad o ganlyniadau, presenoldeb ac ymrwymiad i astudio ac nid yw’n hawl awtomatig i fyfyrwyr. Ynghlwm mae set o feini prawf ar gyfer dilyniant y mae’n rhaid eu cymhwyso’n gyson ac yn deg fel y gall pob myfyriwr fod yn llwyddiannus.

Dolenni defnyddiol:

Dyddiadau allweddol UCAS
Canllawiau ac adnoddau UCAS
Canllaw UCAS i Rieni (PowerPoint)
Cyngor ar UCAS i rieni a gwarcheidwaid

***

Mae dewis pwnc a chwrs yn ddau o’r penderfyniadau mwyaf pwysig y byddwch yn eu gwneud ynghylch prifysgol a gall fod yn dasg go frawychus. Bydd rhaid i chi ddewis cwrs fydd yn cyd-fynd â’ch diddordebau, eich doniau a’ch dyheadau gyrfa.

Pethau i’w hystyried wrth ddewis cwrs

  • Pa raddau sydd eu hangen?
  • Oes angen graddau Safon Uwch neu TGAU mewn rhai pynciau?
  • Sut mae’r cwrs yn cael ei addysgu?
  • Ydy e’n gwrs ymarferol neu ddamcaniaethol yn bennaf?
  • Beth yw cynnwys y cwrs?
  • Sut mae’r cwrs yn cael ei asesu?
  • Beth yw strwythur y cwrs?
  • Beth yw polisi’r brifysgol ar fyfyrwyr sy’n cymryd blwyddyn allan o fyd addysg?

Dylai’r holl wybodaeth hon fod ar gael ar wefannau prifysgolion, mewn prosbectysau ac ar wefan UCAS. Pan fydd syniad gennych ynghylch pa gwrs i’w ddilyn, bydd rhaid dechrau ymchwilio i’r prifysgolion eu hunain.

Pethau i’w hystyried wrth ddewis prifysgol

  • Ble mae’r brifysgol?
  • Pa mor agos ydych chi am fod at eich cartref?
  • Pa fath o le ydych chi am fyw ynddo (trefol neu wledig ac ati)?
  • Pa gyfleusterau sydd ar gael yn y brifysgol?
  • Oes sicrwydd y byddwch yn cael llety?
  • Pa mor uchel eu parch yw’r cwrs a’r brifysgol ledled y wlad?
  • Oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsarïau y gallwch wneud cais amdanynt?

Pan fydd gennych restr o’r prifysgolion rydych wedi ymchwilio iddynt ac mae gennych ddiddordeb ynddynt, mae’n amser i fynd i’r Diwrnodau Agored. Mae’r rhain yn gyfle gwych i ymweld â’r brifysgol, ymdeimlo â naws y lle, gweld y llety’n uniongyrchol, a siarad â darlithwyr a myfyrwyr presennol.

Ysgrifennu’ch Datganiad Personol

Mae’ch Datganiad Personol yn gyfle i chi ddweud wrth y prifysgolion pam dylen nhw eich dewis chi. Dyma’ch cyfle chi i ddweud popeth amdanoch chi’ch hunan wrth diwtoriaid derbyn y brifysgol, pam rydych yn gwneud cais am eu cyrsiau, a beth sy’n eich gwneud yn ymgeisydd addas.

Cyfweliadau Prifysgol

Ni waeth beth fo’u pwrpas, mae cyfweliadau’n galed. Rhaid i chi ddangos eich bod yn gysurus (er nad ydych), gwneud cyswllt llygaid (heb syllu), a dod trwyddo heb anhawster (er hoffech ddianc rhagddo). Bydd llawer o brifysgolion yn awyddus i gwrdd â chi a gofyn cwestiynau cyn cynnig lle i chi ar y cwrs. Dyma ychydig o bethau y gallwch eu gwneud i wella’ch cyfle.

Cyllid a Chyllidebu

Yn y brifysgol, y ddwy brif gost fydd gennych yw’ch ffi dysgu a’ch costau byw. Y newyddion da yw bod amrywiaeth o gymorth ariannol ar gael i’ch helpu i ddelio â’r rhain.