Cludiant

Cyngor i fyfyrwyr y coleg ar deithio o A i B.

Cynigir tocyn bws â chymhorthdal i fyfyrwyr amser llawn Coleg Gŵyr Abertawe.

Yn Nhycoch a Llwyn y Bryn, gall myfyrwyr brynu Tocyn Bws First Cymru. Gellir defnyddio’r tocyn hwn i gyrraedd a gadael y coleg a gellir ei ddefnyddio hefyd gyda’r nos ac yn ystod y penwythnos yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd ar fysiau First Cymru.

Efallai y bydd Cynlluniwr Taith ar-lein First Cymru yn ddefnyddiol i chi wrth drefnu’ch llwybr i ac o’r coleg.

Yng Ngorseinon, darperir cludiant ar gyfer myfyrwyr amser llawn ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod coleg, gan South Wales Transport (SWT). Cyfrifoldeb y rhieni / gwarcheidwaid yw sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd y mannau casglu dynodedig ar y rhwydwaith cludiant erbyn yr amser y cytunwyd arno.

Yn ogystal, gall myfyrwyr ddefnyddio bysiau Gwennol SWT am 1pm a 2pm, sy’n mynd â nhw i Abertawe neu Lanelli neu gallan nhw ddefnyddio gwasanaeth bws First Cymru, rhwng 8am a 6pm, yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor yn unig.

Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma: http://www.gcs.ac.uk/cy/tocynnau-bws